Storiel

Storiel hanes | celf | cymuned
history | art | community

STORIEL 10Wrth edrych yn ôl drwy'r archif yn chwilota am atgofion Storiel 10, cawsom hyd i'r trysor yma ar ein sianel Yo...
28/05/2026

STORIEL 10

Wrth edrych yn ôl drwy'r archif yn chwilota am atgofion Storiel 10, cawsom hyd i'r trysor yma ar ein sianel YouTube, o 2018 - y diwrnod cafodd Storiel ei gymryd drosodd gan Ysgol Beddgelert! Ciwt!😊

Fideo i'w weld drwy'r linc ar ein proffil! Oes na wynebau cyfarwydd?

Whilst looking through the archives for memories to celebrate Storiel 10, we found this treasure back in 2018 from our YouTube Channel - Storiel Take Over Day by Ysgol Beddgelert! Cute! 😊

Follow the link in our bio to see the video! Do you recognise any familiar faces? Tag away!

Storiel 10Wrth edrych yn ôl drwy'r archif yn chwilota am atgofion Storiel 10, cawsom hyd i'r trysor yma ar ein sianel Yo...
28/05/2026

Storiel 10

Wrth edrych yn ôl drwy'r archif yn chwilota am atgofion Storiel 10, cawsom hyd i'r trysor yma ar ein sianel YouTube, nol yn 2018 - Y diwrnod cafodd Storiel ei gymryd drosodd gan Ysgol Beddgelert! Ciwt!😊
Oes na wynebau cyfarwydd?

Whilst looking through the archives for memories to celebrate Storiel 10, we found this treasure back in 2018 from our YouTube Channel - Storiel Take Over Day by Ysgol Beddgelert! Cute! 😊
Do you recognise any familiar faces? Tag away!

Ysgol Beddgelert

Mae'n Ddiwrnod Meddiannu Amgueddfeydd Kids in Museums. Cafodd disgyblion Ysgol Beddgelert fod yn Swyddogion Marchnata Storiel am y dydd.Y dasg oedd creu ffil...

Mis Cerdded Cenedlaethol 👣🥾⛰️ National Walking MonthGyda'r tywydd wedi codi o'r diwedd a gan mai mis Mai ydi Mis Cerdded...
26/05/2026

Mis Cerdded Cenedlaethol 👣🥾⛰️ National Walking Month

Gyda'r tywydd wedi codi o'r diwedd a gan mai mis Mai ydi Mis Cerdded Cenedlaethol y DU, beth am fentro am dro?! Mae deunydd darllen ac offer defnyddiol ar gyfer antur yma yn ein siop!

With the weather finally warm and May the National Walking Month in the UK, how about venturing out for a walk? We have reading material and accesories perfect for an adventure!

𝕀𝕤𝕒𝕓𝕖𝕝 𝔸𝕕𝕠𝕟𝕚𝕤Ganed Isabel Adonis yn Llundain i fam o Gymru, Catherine, a thad o India’r Gorllewin, Denis Williams. Yn 19...
22/05/2026

𝕀𝕤𝕒𝕓𝕖𝕝 𝔸𝕕𝕠𝕟𝕚𝕤

Ganed Isabel Adonis yn Llundain i fam o Gymru, Catherine, a thad o India’r Gorllewin, Denis Williams. Yn 1959 daeth i fyw yng Ngogledd Cymru a chafodd ei haddysg yn Ysgol Ramadeg John Bright yn Llandudno.

O oedran ifanc arbrofodd gyda thecstilau a gwneud cwiltiau ac yn ddiweddarach symudodd ymlaen i wneud lluniau brethyn a doliau. Yn 2008 daeth o hyd i gynfas ar ochr y ffordd, a chymryd y dylai ddechrau paentio. Cafodd ei dylanwadu gan gelf werin America yn ogystal a mytholeg Gymreig. Mae hi’n caru lliw a phaentio mewn acrylig ac yn defnyddio elfennau collage.

Yn ogystal â’r gweithiau yn yr arddangosfa, mae gan Isabel waith ychwanegol i’w gwerthu, a ddangosir yma a gellir eu gweld ar gais neu eu prynu’n uniongyrchol gyda Storiel. Mae ei llyfr And: Memoirs of My Mother ar gael yn y siop hefyd.

Arddangosfa ymlaen nes Mehefin 20.

- - - - -

Isabel Adonis was born in London to a Welsh mother, Catherine, and a West Indian father, Denis Williams. In 1959 she came to live in North Wales and was educated at John Bright Grammar School in Llandudno.

From an early age she experimented with textiles and quilt making and later moved on to making cloth pictures and dolls. In 2008 she found a canvas on the road and took it that she should begin painting. She was influenced by the folk art of America and seeing a painting of a girl with a cat she painted a girl with a crow, the crow symbolising her inner world and its symbolism in Welsh Mythology. She loves colour and paints in acrylic and uses collage elements.

As well as the works in the exhibition, Isabel has additional work for sale, which are shown here and can be viewed on request or purchased directly with Storiel. Her book And: Memoirs of My Mother is also available in the shop.

Exhibition runs until June 20th.

Cyngor Gwynedd Prifysgol Bangor

Wythnos Nesaf | Next weekChwilio am weithgaredd i gadw'r plant yn brysur dros yr hanner tymor?Dewch draw i Storiel am we...
21/05/2026

Wythnos Nesaf | Next week

Chwilio am weithgaredd i gadw'r plant yn brysur dros yr hanner tymor?

Dewch draw i Storiel am weithgareddau galw heibio AM DDIM!

Yn ogystal, gallwch nawr eistedd tu allan i'r caffi i fwynhau hufen iâ yn yr haul! 🍧

🌞🌞🌞🌞

Looking for activities to keep the kids busy over the half term?

Pop into Storiel for some FREE Art and Craft fun!

The cafe now serves ice cream! Perfect treat to enjoy in the brand new outdoor cafe area! 🍧

WYTHNOS DIWETHAF | LAST WEEKAm wythnos oedd hi yma wythnos diwethaf!  - Dau sesiwn o weithgareddau cadwraeth creadigol g...
20/05/2026

WYTHNOS DIWETHAF | LAST WEEK

Am wythnos oedd hi yma wythnos diwethaf!

- Dau sesiwn o weithgareddau cadwraeth creadigol gyda chriw Y Môr a Ni i gyd-fynd a sioe newydd Syrcas Peregrine 'Belly of the Whale' (Crombil y Morfil)
- Hyfforddiant Dementia a gweithdy cerfio sebon gyda Dementia Actif Gwynedd (a "curtain raiser" arbennig gan griw Syrcas Peregrine!)
- Agoriad Arddangosfa Hanes Pobl Ddu mewn Lliw

What a week we had last week! We had:

- Two sessions of creative conservation activities with Y Môr a Ni inspired by Peregrine Circus' new show Belly of The Whale
- Dementia training and soap carving workshop led by Dementia Actif Gwynedd (plus a special curtain raiser performance by the Peregrine Circus crew!)
- A special opening for Black History in Colour exhibition

Diolch i bawb! / Thank you to all!

Dementia Actif Gwynedd

Diwrnod Neges Heddwch Urdd Gobaith Cymru ☮️ Urdd Gobaith Cymru Peace and Goodwill MessageDyma rhai o fathodynnau o gasgl...
19/05/2026

Diwrnod Neges Heddwch Urdd Gobaith Cymru ☮️ Urdd Gobaith Cymru Peace and Goodwill Message

Dyma rhai o fathodynnau o gasgliad Storiel. Yn eu mysg mae’r bathodyn heddwch bach iawn du a gwyn. Mae’n debyg ei fod yn gyfarwydd iawn i lawer o Gymry a fagwyd yn y 1980au, yn ystod cyfnod o godi ymwybyddiaeth a phrotest gwrth-niwclear. Yno hefyd mae'r pabi gwyn, sy'n cael ei ddefnyddio i gofio'r rhai a fu farw ar faes y gad, ac fel symbol o heddwch a heddychiaeth.

Wrth ochr â nhw mae casgliad o fathodynnau Cymdeithas yr Iaith, sy'n annog defnydd o'r Gymraeg sydd, fel y gwyddom, yn iaith lleiafrifol. Dyma grynodeb o Neges 2026:

'Eleni mae Neges Heddwch ac Ewyllys Da'r Urdd yn canolbwyntio ar Ieithoedd Lleiafrifol. Pwrpas y Neges yw addysgu pobl ar draws y byd am yr ieithoedd hyn, ac annog iddynt eu gwerthfawrogi, eu dysgu a’u defnyddio. Mae’r Neges yn agor trafodaeth ehangach am rôl iaith mewn empathi, cydraddoldeb a dealltwriaeth o’r byd o’n cwmpas... Mae heddwch yn siarad pob iaith.'

- - - -

Here are a few badges from the Storiel collection. Among them is this very small badge in black and white. It’s probably very familiar to many Welsh people who grew up in the 1980’s, during the hey-day of anti-nuclear awareness and protest. There is also a white poppy which is used as a symbol of peace, worn either in place of or in addition to the red remembrance poppy for Remembrance Day or Anzac Day.

Also among the badges are a few Cymdeithas yr Iaith badges, encouraging the use of Welsh, as it is of course a minority language. Here is a summary of the 2026 Message:

'This year, the Urdd’s Message of Peace and Goodwill focuses on Minority Languages. Its aim is to educate people around the world about these languages and to encourage them to value, learn, and use them. In doing so, the Message opens up a wider conversation about the role of language in empathy, equality, and our understanding of the world around us... Peace speaks every language.'

🕊️

📣 ARDANGOSFA | EXHIBITIONMichal Iwanowski🗓️ 28 Mawrth – 27 Mehefin 2026📍 StorielDewch i brofi arddangosfa bwerus gan yr ...
18/05/2026

📣 ARDANGOSFA | EXHIBITION
Michal Iwanowski
🗓️ 28 Mawrth – 27 Mehefin 2026
📍 Storiel

Dewch i brofi arddangosfa bwerus gan yr artist Michal Iwanowski, sy’n archwilio’r syniad o ‘gartref’ trwy daith anhygoel o dros 1900km rhwng Cymru a Gwlad Pwyl.
Yn dilyn graffiti gwrth-ymfudosol a welodd yn 2008, aeth Michal ar daith 105 diwrnod ar droed—gan ddogfennu ei brofiadau a’r bobl a gyfarfu ar hyd y ffordd.
Arddangosfa amserol sy’n myfyrio ar hunaniaeth, mudo ac Ewrop ar ôl Brexit.
👉 Dysgwch fwy: www.storiel.cymru

Come and experience this powerful exhibition by artist Michal Iwanowski, exploring the idea of ‘home’ through an extraordinary 1900km journey between Wales and Poland.
After encountering anti-immigration graffiti in 2008, Michal set out on a 105-day walk—documenting his experiences and the people he met along the way.
A timely exhibition reflecting on identity, migration and post-Brexit Europe.
👉 Find out more: www.storiel.cymru

15/05/2026

✨️ Newyddion cyffroes yn ein siop ✨️
Rydym yn falch o groesawu cyflenwr gemwaith lleol newydd sbon i'n casgliad

💎Charlotte Bellis Designs

✨️ Exciting news at our shop ✨️
We are thrilled to welcome a brand new local supplier to our jewellery collection

💎 Charlotte Bellis Designs

LLONGYFARCHIADAU | CONGRATULATIONSHoffem longyfarch yr artist a ffrind i Storiel, Mfikela Jean Samuel! Ym mis Ebrill fe ...
09/05/2026

LLONGYFARCHIADAU | CONGRATULATIONS

Hoffem longyfarch yr artist a ffrind i Storiel, Mfikela Jean Samuel! Ym mis Ebrill fe brynwyd Y Llyfgrell Genedlaethol 11 darn o'i waith ar gyfer y Casgliad Celf Cenedlaethol.

Mae Mfikela'n artist adnabyddus sydd yn gweithio'n ddiflino i wella cynrychiolaeth unigolion o gefndir Affricanaidd a grwpiau lleiafrifol eraill o fewn ein cymunedau'n Ngogledd Cymru.

Yn ddiweddar, bu'n rhan o Brosiect Hanes Pobl Ddu mewn Lliw ar y cyd â Rhwydwaith Cydraddoldeb Rhanbarthol Gogledd Cymru (NWREN) mewn cydweithrediad ag ysgolion lleol yn archwilio a dathlu'n greadigol straeon llai adnabyddus pobl Dduon sydd wedi byw yn ein cymunedau lleol. Mae ffrwyth llafur y prosiect hwnnw i'w weld ar hyn o bryd yn ein Oriel Gymunedol!

Mawr ddiolch i Mfikela am ei waith. Edrych ymlaen i weld celf o'r newydd yn fuan!
. . .

Congratulations to Bangor artist and friend of Storiel, Mfikela Jean Samuel, on the purchase of 11 of his artworks by the National Library of Wales as part of the National Art Collection.

Mfikela works hard to improve the representation of African and other minority groups within our communities in North Wales.

He was recently part of the Black History in Colour Project alongside North Wales Regional Equality Network’s (NWREN) in collaboration with local schools that creatively explored and celebrate the lesser-known stories of Black people who have lived in our local communities. The results of which are currently on display in our Community Gallery.

A huge thank you for your work Mfikela. Looking forward to see new art soon!

Llyfrgell Genedlaethol Cymru | The National Library of Wales

Address

Ffordd Gwynedd
Bangor
LL571DT

Opening Hours

Tuesday 11am - 5pm
Wednesday 11am - 5pm
Thursday 11am - 5pm
Friday 11am - 5pm
Saturday 11am - 5pm

Telephone

+441248353368

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Storiel posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Contact The Museum

Send a message to Storiel:

Share

Category