Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd - National Museum Cardiff

Call Directions Website

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd - National Museum Cardiff Stori celf a’r gwyddorau naturiol yng Nghymru. We tell the story of arts and science in Wales. Look no further!⁣

How about a Monet, a Renoir or a Van Gogh?
(963)

Ble arall allwch chi weld deinosoriaid, meteorynnau a rhyfeddodau byd natur yn cyd-fyw â gweithiau celf, cerfluniau a ffotograffau rhai o artistiaid enwoca’r byd?⁣

Yma fe gewch chi gwrdd â deinosor Cymreig, cyn rhyfeddu at waith gan Monet, Renoir a Van Gogh. Dyma gartref artistiaid Cymru hefyd – o Richard Wilson i Gwen John.⁣

Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn perthyn i chi. Camwch i fyd y gwyddorau naturiol a chelf fel y mynnoch – galwch draw y tro nesa byddwch chi yng nghanol y ddinas.⁣

Mae mynediad AM DDIM diolch i nawdd Llywodraeth Cymru.⁣

Bob tro y byddwch chi'n prynu rhywbeth gennym, neu yn cyfrannu rhodd boed fawr neu fach, byddwch yn ein helpu i sicrhau fod Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma at ddefnydd pawb.⁣

Dewch i fod yn rhan o stori Cymru – trwy ymuno â ni, gwirfoddoli neu gyfrannu.⁣

********************⁣

Where else in the world can you expect to see displays of dinosaurs, meteorites and the wonders of our natural world in the same place as paintings, sculptures and photographs by some of the world’s best-known artists?⁣

Looking for a Welsh dinosaur? Or maybe Welsh artists are more your thing – Gwen John, perhaps? We’ve got them all.⁣

National Museum Cardiff is yours. Engage with the natural sciences and art on your own terms – just call in whenever you’re in the city centre.⁣

Our entry is FREE to all thanks to funding from the Welsh Government.⁣

Every purchase you make from us and every gift you give us, however small or large, will help us ensure that Amgueddfa Cymru belongs to everyone and is here for everyone to use. Play your part in Wales’ story: by volunteering, by joining, by donating. ⁣

Beth sydd ymlaen yr wythnos hon yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd?What's on this week at National Museum Cardiff?Os mai...
19/10/2026

Beth sydd ymlaen yr wythnos hon yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd?
What's on this week at National Museum Cardiff?

Os mai darganfod deinosoriaid, mwynhau celf o'r ansawdd uchaf neu gwrdd â Tom Bones y mamoth sy'n eich denu, mae digon o straeon i’w darganfod yr hydref hwn.

Whether you're discovering dinosaurs, enjoying world-class art or meeting Tom Bones the mammoth, there are plenty of stories waiting to be uncovered this autumn.

Dydd Sadwrn, byddwn hefyd yn croesawu teuluoedd i’n sesiynau Amser Stori gyda Babis Bach Babies, sydd bellach wedi’u gwerthu allan.
Wedi methu cael lle? Peidiwch â phoeni. Byddwn yn cyhoeddi’r gyfres nesaf o sesiynau Amser Stori gyda Babis Bach Babies yn fuan, felly cadwch lygad allan!👀

This Saturday, we're also welcoming families to our fully booked Storytime with Babis Bach Babies sessions.
Missed out? Don't worry. We'll be announcing our next series of Storytime with Babis Bach Babies sessions soon, so keep your eyes peeled. 👀

Mynediad am ddim / Entry is free
Ar agor Dydd Mawrth–Ddydd Sul 10 / Open Tuesday-Sunday
10am - 5pm

🎟️Archebwch eich tocyn mynediad am ddim drwy’r ddolen yn y sylwadau a dechreuwch gynllunio eich antur amgueddfa nesaf.

🎟️ Book your free entry ticket via the link in the comments and start planning your next museum adventure.

Dathlu Diwrnod Ffosiliau: Datrys Dirgelwch 200 Mlynedd 🦴🔨 Celebrating Fossils Day: Solving a 200-Year Mystery 🦴 🔨 Wedi’i...
14/10/2026

Dathlu Diwrnod Ffosiliau: Datrys Dirgelwch 200 Mlynedd 🦴🔨

Celebrating Fossils Day: Solving a 200-Year Mystery 🦴 🔨

Wedi’i guddio ymhlith y creigiau ar draeth Larnog am fwy na 200 miliwn o flynyddoedd, mae’r ffosil hwn wedi helpu i ddatrys dirgelwch oedd wedi peri penbleth i wyddonwyr ers bron i 200 mlynedd.

Wedi’i ddarganfod gan yr heliwr ffosiliau Jonathan Bow, roedd yr ên ffosiledig brin hon yn perthyn i Saurichthys, ysglyfaethwr cyflym ac ystwyth a oedd yn nofio yn y môr trofannol bas oedd yn gorchuddio Cymru ar un adeg.

Helpodd y darganfyddiad ymchwilwyr i ddatgelu mwy am ffosiliau pysgod cynhanesyddol a oedd wedi cael eu camddeall ers cenedlaethau.

Dim ond un yw hwn o tua hanner miliwn o sbesimenau ffosil sy’n cael eu gofalu amdanynt gan Amgueddfa Cymru, ac mae gan bob un stori i’w hadrodd am orffennol rhyfeddol Cymru.
Darllenwch stori’r darganfyddiad arbennig hwn ar ein gwefan: https://orlo.uk/1mgnO

****
Hidden in the rocks at Lavernock Beach for more than 200 million years, this fossil helped solve a mystery that had puzzled scientists for generations.

Discovered by fossil hunter Jonathan Bow, the rare jaw belonged to Saurichthys, a swift predator that once swam in the tropical seas covering Wales.

Its discovery helped researchers uncover new secrets about prehistoric fish fossils that had been misunderstood for nearly 200 years.
It's just one of around half a million fossil specimens cared for by Amgueddfa Cymru, each helping us learn a little more about Wales' extraordinary past.

Read the story behind this remarkable discovery on our website: https://orlo.uk/AKc6M

𝐁𝐞𝐭𝐡 𝐬𝐲'𝐧 𝐝𝐢𝐠𝐰𝐲𝐝𝐝 𝐲𝐫 𝐰𝐲𝐭𝐡𝐧𝐨𝐬 𝐲𝐦𝐚 𝐲𝐧 𝐀𝐦𝐠𝐮𝐞𝐝𝐝𝐟𝐚 𝐆𝐞𝐧𝐞𝐝𝐥𝐚𝐞𝐭𝐡𝐨𝐥 𝐂𝐚𝐞𝐫𝐝𝐲𝐝𝐝!𝐖𝐡𝐚𝐭'𝐬 𝐨𝐧 𝐭𝐡𝐢𝐬 𝐰𝐞𝐞𝐤 𝐚𝐭 𝐍𝐚𝐭𝐢𝐨𝐧𝐚𝐥 𝐌𝐮𝐬𝐞𝐮𝐦 𝐂𝐚𝐫𝐝𝐢𝐟𝐟!Y dyd...
12/10/2026

𝐁𝐞𝐭𝐡 𝐬𝐲'𝐧 𝐝𝐢𝐠𝐰𝐲𝐝𝐝 𝐲𝐫 𝐰𝐲𝐭𝐡𝐧𝐨𝐬 𝐲𝐦𝐚 𝐲𝐧 𝐀𝐦𝐠𝐮𝐞𝐝𝐝𝐟𝐚 𝐆𝐞𝐧𝐞𝐝𝐥𝐚𝐞𝐭𝐡𝐨𝐥 𝐂𝐚𝐞𝐫𝐝𝐲𝐝𝐝!

𝐖𝐡𝐚𝐭'𝐬 𝐨𝐧 𝐭𝐡𝐢𝐬 𝐰𝐞𝐞𝐤 𝐚𝐭 𝐍𝐚𝐭𝐢𝐨𝐧𝐚𝐥 𝐌𝐮𝐬𝐞𝐮𝐦 𝐂𝐚𝐫𝐝𝐢𝐟𝐟!

Y dydd Gwener hwn, ymunwch â ni am noson arbennig gyda Bleak Fabulous, y ddeuawd greadigol y tu ôl i’n harddangosfa ffotograffiaeth gyffrous, 'Ffasiwn yw e'.

Clywch gan yr artistiaid a mwynhewch fynediad gyda'r nos i'r oriel.

Dim ond ychydig o docynnau sydd ar ôl: https://orlo.uk/zkS9s

Yn ogystal â'r digwyddiad arbennig hwn, dewch i weld gweithiau Monet, cwrdd â deinosoriaid a'r mamoth Tom Bones, a darganfod hanes natur Cymru.

Ar agor dydd Mawrth i ddydd Sul, 10yb-5yp (ar gau dydd Llun).
Mynediad am ddim.

Archebwch eich tocyn ymweld am ddim ymlaen llaw trwy’r ddolen yn y sylwadau.👇🏻

****

This Friday, join us for an evening with Bleak Fabulous, the creative duo behind 'It's Called Ffasiwn', the project brought together at our current 'It's Called Ffasiwn' exhibition.

Hear directly from the artists and enjoy exclusive evening access to the gallery.

Limited tickets remain: https://orlo.uk/iiGwI

From Monet and Impressionist masterpieces to dinosaurs, mammoths and natural history discoveries, there's plenty to explore this week at National Museum Cardiff.

Open Tuesday-Sunday, 10am-5pm (closed Mondays).

Book your free general admission tickets via the link in comments.👇🏻

🌧️ Dewch i guddio rhag y glaw, arhoswch am 'Glaw - Auvers' Van Gogh🌧️ Hide from the rain, stay for Van Gogh's 'Rain - Au...
09/10/2026

🌧️ Dewch i guddio rhag y glaw, arhoswch am 'Glaw - Auvers' Van Gogh
🌧️ Hide from the rain, stay for Van Gogh's 'Rain - Auvers'

Mae Glaw - Auvers yn darlunio tirwedd yn Auvers-sur-Oise, lle treuliodd van Gogh flynyddoedd olaf ei fywyd ac ysbrydolwyd y trawiadau glaw croeslin gan baentiad Japaneaidd.
Sut mae'r lliwiau yn y paentiad hwn yn gwneud i chi deimlo?

****
Rain - Auvers depicts a landscape at Auvers-sur-Oise, where van Gogh spent the last years of his life and the diagonal rain strokes were inspired by a Japanese painting.
How do the colours in this painting make you feel?

Ar agor tan 5pm .Open till 5pm
Mynediad am ddim / Entry is free!

Ymweld â ni dros benwythnos Hanner Marathon Caerdydd?Visiting us over Cardiff Half Marathon weekend?Cofiwch bydd ein mae...
01/10/2026

Ymweld â ni dros benwythnos Hanner Marathon Caerdydd?
Visiting us over Cardiff Half Marathon weekend?

Cofiwch bydd ein maes parcio ar gau 2–4 Hydref
Reminder that our car park will be closed 2–4 October.

🏛️ Byddwn yn agor yn gynnar o 7am ar ddiwrnod y ras ar gyfer rhedwyr a chefnogwyr.
🎨 Gwneud baneri am ddim i blant yng Nghanolfan Ddarganfod Clore.
☕ Bydd diodydd poeth ac oer a rholiau brecwast ar werth yn ein caffi tan 10am.
🎟️ Cofiwch archebu eich tocyn i’r amgueddfa ymlaen llaw drwy’r ddolen yn y sylwadau.

****

🏛️ We’re opening early from 7am on race day (Sunday 4 October) for runners and supporters.
🎨Free banner making for children in the Clore Discovery Centre.
☕There will be hot and cold drinks as well as breakfast rolls served in the cafe until 10am!
🎟️ Please book your museum entry in advance via the link in the comments.

🎶 Disgo Tawel yn ddychwelyd | Silent Disco returns!🎶 Ewch yn wyllt a mentro i'r byd cerddoriaeth o fewn waliau syfrdanol...
30/09/2026

🎶 Disgo Tawel yn ddychwelyd | Silent Disco returns!🎶

Ewch yn wyllt a mentro i'r byd cerddoriaeth o fewn waliau syfrdanol yr Amgueddfa yr hydref yma!

Grab your headphones, and let loose on the dance floor surrounded by the stunning museum atmosphere this October!

Tocynnau | Tickets 👉 https://orlo.uk/Q1qlS

Penwythnos Hanner Marathon Caerdydd 🏃Cardiff Half Marathon weekend!Byddwn yn agor yn gynnar o 7am ar ddiwrnod y ras, gan...
30/09/2026

Penwythnos Hanner Marathon Caerdydd 🏃Cardiff Half Marathon weekend!

Byddwn yn agor yn gynnar o 7am ar ddiwrnod y ras, gan gynnig lle tawel i ymlacio, crwydro a chael brecwast cyn i’r cyffro ddechrau.

Hefyd, gall gefnogwyr bach baratoi ar gyfer y ras gyda sesiwn gwneud baneri am ddim yng Nghanolfan Ddarganfod Clore.

🎟️ Rhaid archebu tocyn mynediad ymlaen llaw (dolen archebu yn y sylwadau).
🚗 Bydd ein maes parcio ar gau 2–4 Hydref, felly cofiwch gynllunio eich taith ymlaen llaw.

****

We’re open from 7am on race day, giving runners and supporters a calm place to relax, explore and grab breakfast.

Plus, little supporters can get race-ready with free banner making in the Clore Discovery Centre.

🎟️ Entry must be booked in advance (link to book in the comments)
🚗 Our car park will be closed 2–4 October, so please plan ahead.

Does dim rhaid i chi fod yn artist i ddechrau braslunio! ✏️You don’t have to be an artist to start sketching!✏️ Cymerwch...
21/09/2026

Does dim rhaid i chi fod yn artist i ddechrau braslunio! ✏️
You don’t have to be an artist to start sketching!✏️

Cymerwch olwg agosach ar y casgliad mewn sesiwn fraslunio gyda’r artist Marion Cheung yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Cewch gyfle arbennig i weld gweithiau o’r casgliad sydd prin yn cael eu gweld gan y cyhoedd wedi'i amgylchu gan waith artistiaid fel Degas a Rodin.

Mae croeso mawr i ddechreuwyr!
Fe wnawn ni ddarparu’r deunyddiau, y cyfan sydd angen arnoch chi yw greadigrwydd.

Archebwch eich tocynnau trwy'r linc yn y sylwadau.

****

Take a closer look at the collection in a relaxing Sketch Along session with artist Marion Cheung at National Museum Cardiff.

Get exclusive access to rarely seen works from our collection, surrounded by sculptures from Degas, Rodin and more.
Beginners very welcome.

We’ll provide the materials, you bring the creativity.

Book your tickets via the link in the comments.

Cofio Gwen John | Remembering Gwen John(1876-1939)Heddiw, ar ben-blwydd marwolaeth Gwen John, rydym yn cofio artist a we...
18/09/2026

Cofio Gwen John | Remembering Gwen John
(1876-1939)

Heddiw, ar ben-blwydd marwolaeth Gwen John, rydym yn cofio artist a welodd y byd yn wahanol.

Yn gynharach eleni, daeth arddangosfa Gwen John: Hardd a Hynod yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd â’i gwaith ynghyd ar raddfa na gwelwyd erioed o’r blaen yn ei mamwlad, gan ddathlu ei gweledigaeth unigryw, ei hymroddiad i ffurf a lliw, a’i gallu eithriadol i ganfod harddwch yn y pethau tawel a’r manylion a oedd yn aml yn cael eu hanwybyddu.

Roedd yn bleser gweld cynifer o bobl yn cysylltu â byd Gwen yn yr arddangosfa. Datgelodd ei phaentiadau, ei lluniadau a’i gweithiau personol iawn bod ei dylanwad yn parhau i’n hysbrydoli 150 mlynedd ar ôl ei geni.

Diolch o galon i Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston, prif noddwr yr arddangosfa, am helpu i wireddu’r dathliad tirnod hwn o waith Gwen.

Rydym hefyd yn ddiolchgar am gefnogaeth ycwhanegol Art Fund, The Finnis Scott Foundation, Cyfeillion Amgueddfa Cymru, The Gibbs Trust, Gwendoline and Margaret Davies Charity, International Music and Art Foundation, Michael Marks Charitable Trust, a’n cefnogwyr unigol.

***

Today, on the anniversary of Gwen John’s death, we’re taking a moment to remember an artist who saw the world differently.

Earlier this year, Gwen John: Strange Beauties brought together her work on an unprecedented scale in her home country, celebrating her distinctive vision, her devotion to form and colour, and her extraordinary ability to find beauty in the quiet and overlooked moments.

We were delighted to see so many people connect with Gwen’s world during the exhibition. Her paintings, drawings and deeply personal works revealed an artist whose influence continues to resonate, 150 years after her birth.

Our sincere thanks to Colwinston Charitable Trust, Principal Funder of the exhibition, for helping make this landmark celebration possible.

We're also grateful for the additional support of Art Fund, The Finnis Scott Foundation, Friends of Amgueddfa Cymru, The Gibbs Trust, Gwendoline and Margaret Davies Charity, International Music and Art Foundation, Michael Marks Charitable Trust, and our individual supporters.

Noson gyda - An Evening with ✨ Bleak Fabulous ✨Ymunwch â’r artistiaid Clémentine Schneidermann a Charlotte James wrth id...
16/09/2026

Noson gyda - An Evening with ✨ Bleak Fabulous ✨

Ymunwch â’r artistiaid Clémentine Schneidermann a Charlotte James wrth iddynt fyfyrio ar ddeng mlynedd o Ffasiwn yw e, y prosiect ffotograffiaeth gydweithredol sydd bellach wedi’i dod ynghyd yn ein harddangosfa ddiweddaraf, Ffasiwn.

Bydd Clémentine, ffotograffydd Ffrengig sy’n gweithio rhwng Cymru a Ffrainc, a Charlotte, cyfarwyddwr creadigol a gwneuthurwr ffilmiau o Ferthyr Tudful, yn trafod y syniadau, yr ysbrydoliaethau a’r broses greadigol y tu ôl i ddegawd o waith a gafodd ei siapio gyda phobl ifanc o Gymoedd y De.

Dewch i ddarganfod sut y daeth ffotograffiaeth, ffasiwn, ffilm a pherfformiad ynghyd i greu prosiect sydd wedi denu cynulleidfaoedd o bell ac agos, wrth barhau i fod wedi’i wreiddio yn y cymunedau a helpodd i’w lunio.

£5 i bobl ifanc 16-25 oed. Am ddim i rai dan 16 oed.

🎟 Archebwch nawr: https://orlo.uk/ZgPSt

****

Join Bleak Fabulous artists Clémentine Schneidermann and Charlotte James as they reflect on ten years of It's Called Ffasiwn, the collaborative photography project now brought together in our newest exhibition, Ffasiwn.

Clémentine, a French photographer working between Wales and France, and Charlotte, a creative director and filmmaker from Merthyr Tydfil, will discuss the ideas, influences and creative process behind a decade of work shaped with young people from the South Wales Valleys.

Learn how photography, fashion, film and performance came together to create a project that has resonated far beyond South Wales while remaining rooted in the communities that helped shape it.

Aged 16-25? Tickets are just £5. Under 16s go free.

🎟 Book now: https://orlo.uk/Eo0Tn

Address

Cathays Park
Cardiff
CF103NP

Opening Hours

Tuesday 10am - 5pm
Wednesday 10am - 5pm
Thursday 10am - 5pm
Friday 10am - 5pm
Saturday 10am - 5pm
Sunday 10am - 5pm

Telephone

+443001112333

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd - National Museum Cardiff posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Shortcuts

Share