Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru - St Fagans National Museum of History

Call Directions Website Contact the museum

Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru - St Fagans National Museum of History Rydyn ni’n adrodd stori pobl Cymru ac yn rhan o Amgueddfa Cymru

⁣⁣We tell the story of the people of Wales. Part of Amgueddfa Cymru⁣

Dewch i ’nabod pobl Cymru – o fyd plentyn Neanderthal 230,000 o flynyddoedd yn ôl hyd heddiw.⁣

Yma mae gennym hanner cant o adeiladau gwreiddiol o bob cwr o Gymru wedi symud a’u hailgodi at ein tiroedd. ⁣

Dewch i fod yn rhan o hanes!⁣

Mae mynediad AM DDIM diolch i nawdd Llywodraeth Cymru.⁣ ⁣

Bob tro y byddwch chi'n prynu rhywbeth gennym, neu yn cyfrannu rhodd boed fawr neu fach, byddwch yn ein helpu i sicrhau fod Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma at ddefnydd pawb.⁣

Dewch i fod yn rhan o stori Cymru – trwy ymuno â ni, gwirfoddoli neu gyfrannu. ⁣

********************⁣
Explore the stories of the people of Wales – from the world of a 230,000-year Neanderthal child to the present day.⁣

Discover 50 original buildings moved from all over Wales and re-constructed at the museum. ⁣

Don't just visit history, be part of it!⁣

Our entry is FREE to all thanks to funding from the Welsh Government.⁣

Every purchase you make from us and every gift you give us, however small or large, will help us ensure that Amgueddfa Cymru belongs to everyone and is here for everyone to use. ⁣

Play your part in Wales’ story: by volunteering, by joining, by donating.

Mae gerddi'r Castell yn edrych yn hydrefol iawn 🍁 The Castle gardens looking very autumnal Dewch am dro o amgylch yr amg...
17/10/2026

Mae gerddi'r Castell yn edrych yn hydrefol iawn 🍁 The Castle gardens looking very autumnal

Dewch am dro o amgylch yr amgueddfa i ddysgu am hanes Cymru o 230,000 mlynedd yn ôl hyd at heddiw. Mae mynediad am ddim!

****
Come and enjoy a walk around the museum and learn about the history of Wales from 230,000 years ago to present day. Entry is free!

Eglwys Sant Teilo | St Teilo's Church Agorwyd Eglwys Sant Teilo yn Sain Ffagan ar 14 Hydref 2007. Yn wreiddiol, safai 'y...
15/10/2026

Eglwys Sant Teilo | St Teilo's Church

Agorwyd Eglwys Sant Teilo yn Sain Ffagan ar 14 Hydref 2007.

Yn wreiddiol, safai 'yr hen eglwys ar y gors' ar lan afon Llwchwr ger Pontarddulais. Bu’n ganolfan i’r gymuned yno am dros 700 mlynedd.

Mae Eglwys Sant Teilo yn ymddangos fel y byddai tua'r flwyddyn 1530, gyda'r holl elfennau a gysylltir ag eglwys Babyddol o'r Oesoedd Canol diweddar, fel croglen a llofft y grog (rhwng corff yr eglwys a'r gangell), allorau, cerfiadau a lluniau lliwgar ar y waliau i gyd.

****
St Teilo's Church opened in St Fagans National Museum of History on 14 October 2007.

The 'old church on the marsh' as it was fondly known stood by the river Lwchwr, near Pontarddulais. It had served the community there for over 700 years.

St Teilo's church has been refurbished as it may have appeared about the year 1530, complete with all the elements associated with a late medieval Catholic church, including a rood screen and loft (between the nave and chancel), altars, carvings and brightly-coloured paintings on all the walls.

Tanchwa Senghennydd | Senghenydd Pit Disaster Bu farw 439 o ddynion a bechgyn yn nhanchwa glofa'r Universal yn Senghenny...
14/10/2026

Tanchwa Senghennydd | Senghenydd Pit Disaster

Bu farw 439 o ddynion a bechgyn yn nhanchwa glofa'r Universal yn Senghennydd ar 14 Hydref 1913. Dyma drychineb fwyaf y diwydiant glo ym Mhrydain erioed.

Mae'r plât coffa hwn yn nodi marwolaeth Gwilym M. Rees yn ffrwydrad pwll Senghennydd. Wedi'i beintio â llaw gyda rhosynnau coch a dail gwyrdd, yn amgylchynu ffotograff a phennill.

Mae'r plât ar arddangos yn oriel Byw a Bod yn Sain Ffagan.

****

439 men and boys died in the mining disaster at Universal Colliery, Senghenydd on 14 October 1913. This was the worst disaster in the UK's mining history.

This memorial plate commemorates the death of Gwilym M. Rees in the Senghenydd pit explosion. The plate is hand painted with red roses and green leaves, surrounding a photograph and verse.

On display in the Life is...gallery at St Fagans.

Agorwyd Sefydliad Gweithwyr Oakdale yn Sain Ffagan ar 14 Hydref 1995 | Oakdale Workmen's Institute opened at St Fagans o...
13/10/2026

Agorwyd Sefydliad Gweithwyr Oakdale yn Sain Ffagan ar 14 Hydref 1995 | Oakdale Workmen's Institute opened at St Fagans on 14 October 1995.

****
Daw'r adeilad o Oakdale, pentref glofaol rhyw 10 milltir i’r gogledd o Gaerffili. Cafodd y cerrig sylfaen eu gosod ar 3 Gorffennaf 1916 ac ymhen ychydig dros flwyddyn, agorodd y Stiwt newydd ar 10 Medi 1917.
Rhoddodd Cwmni Glo a Haearn Tredegar fenthyciad o £3,000 i adeiladu’r Stiwt. Roedd y gweithwyr hefyd yn rhoi ceiniog yr wythnos o’u cyflog, sef cyfanswm o £1,554.

Cafodd Oakdale, fel pob Stiwt arall, ei sefydlu yn ganolfan ar gyfer addysg a hamdden. Yn absenoldeb ysgolion uwchradd, roedd llyfrgelloedd sefydliadau y gweithwyr yn rhoi cyfle i lowyr addysgu eu hunain.
Yn ogystal â’r llyfrgell, roedd ystafell ddarllen, ystafell bwyllgor a neuadd gyngerdd i fyny’r grisiau.

****

It was originally built in Oakdale, a mining village around 10 miles north of Caerphilly. The foundation stones were laid on 3 July 1916 and just over a year later, the new Oakdale Institute was opened on 10 September 1917.
The Tredegar Iron and Coal Company gave a loan of £3,000 to build the Institute. This was on top of the £1,554 from the workmen’s penny-a-week payments.

Workmen’s institutes were established as centres for self-education as well as recreation, ‘the brains of the coalfield’. In the absence of secondary education, the libraries of workmen’s institutes were places were miners could educate themselves through reading.
As well as the library, there was a reading room, a committee room and a concert hall upstairs.

Mis Cenedlaethol Gwlân  🐑 National Wool Month Oeddech chi'n gwybod taw mis Hydref yw Mis Cenedlaethol Gwlân? Cafodd Feli...
05/10/2026

Mis Cenedlaethol Gwlân 🐑 National Wool Month

Oeddech chi'n gwybod taw mis Hydref yw Mis Cenedlaethol Gwlân?

Cafodd Felin Wlân Esgair Moel ei symud i Sain Ffagan yn 1949 . Cafodd ei hadeiladu ym Mhowys ym 1760, pan oedd gwlân yn un o ddiwydiannau pwysicaf Cymru. Isaac Williams oedd y melinydd yma rhwng 1880 a 1932. Gwnâi flancedi a sioliau, gwlanen at wneud dillad, ac edafedd at wau sanau.

Mae’r felin yn dal i droi ac mae Dewi Jones, gwehydd yr Amgueddfa, yn dal i greu amrywiaeth o nwyddau gwlân. Os hoffech ddysgu mwy am y diwylliant gwlân yng Nghymru, beth am ymweld ag Amgueddfa Wlân Cymru?

****
Did you know that October is National Wool Month?

Esgair Moel Woollen Mill was moved to St Fagans in 1949. It was originally built in Powys in 1760 during a time when the woollen industry was one of the most important in Wales. From 1880 to 1932, Isaac Williams was the weaver in the mill. He made carthenni (blankets), shawl, flannel for making clothes and yarns for knitting socks.

The mill is still a working building where Dewi Jones, the Museum weaver continues to make a variety of woollen goods. Call in to the mill to see Dewi at work.

If you'd like to learn more about the woollen industry in Wales, why not visit Amgueddfa Wlân Cymru - National Wool Museum in Dre-fach Felindre.

01/10/2026

Hydref 🍁 October

Mae mis Hydref wedi cyrraedd, ac yn fuan bydd yr amgueddfa yn llawn lliwiau'r hydref. Dyma’r amser perffaith i fynd allan i fyd natur i archwilio tiroedd a gerddi Sain Ffagan.

****

October has arrived and soon the museum will be ablaze with autumn colour. This is the perfect time to put on your walking boots and head out into nature to explore the grounds and gardens of St Fagans.

29/09/2026

Cynaeafu Afalau 🍎 Harvesting Apples

Mae'r tîm garddio wedi bod yn brysur yn cynaeafu afalau. Rydym yn tyfu sawl math o afalau treftadaeth yn yr Amgueddfa gan gynnwys afalau ‘Trwyn Mochyn’, ‘Llwyd Hanner Goch’, 'Pig y Glomen’, a llawer mwy.
Mae'r afalau yn cael eu troi mewn i sudd afal blasus sydd ar werth yn ein siop. Beth am brynu potel ar eich ymweliad nesaf?

****
The gardening team have been busy harvesting apples. We grow many varieties of heritage apples at St Fagans including ‘Monmouthshire Beauty’, ‘Gabalfa’, ‘Trwyn Mochyn’, and lots more!
The apples are turned into delicious juice that we sell in our shop. Why not pick up a bottle on your next visit?

Cymru... Hip Hop 🎤 Wales is...Hip HopAr agor nawr yn oriel Cymru..., mae'r arddangosiad hwn yn edrych ar esblygiad diwyl...
26/09/2026

Cymru... Hip Hop 🎤 Wales is...Hip Hop

Ar agor nawr yn oriel Cymru..., mae'r arddangosiad hwn yn edrych ar esblygiad diwylliant Hip Hop yng Nghymru. Dewch i gael blas ar gerddoriaeth, dawns a ffasiwn drwy lygaid pobl sy'n byw ac yn creu Hip Hop yng Nghymru.

Cewch glywed am berfformwyr, dawnswyr, DJs, MCs, artistiaid graffiti ac arloeswyr cymunedol sydd wedi helpu i adeiladu a chynnal y sîn ar draws y cenedlaethau.

****
Open now in the Wales is...gallery, this display explores the evolution of the Hip Hop genre and artform in Wales. Come and experience the music, dance and fashion, told through the lens of the people who have made it their own in Wales.

Discover the performers, dancers, DJs, MCs, graffiti artists and community pioneers who have helped build and sustain the scene across generations.

📣Rydym wedi cael ein henwi’r amgueddfa rad ac am ddim orau gan Which?, a hoffem glywed beth rydych chi’n meddwl sy’n gwn...
25/09/2026

📣Rydym wedi cael ein henwi’r amgueddfa rad ac am ddim orau gan Which?, a hoffem glywed beth rydych chi’n meddwl sy’n gwneud Sain Ffagan mor arbennig.

Beth yw eich hoff adeilad neu'ch hoff atgof o'r amgueddfa?

****

📣We've been named best free museum by Which? and we'd love to hear what you think makes St Fagans so special.

What's your favourite building or museum memory?

Nation Cymru staff Consumer champion Which? has named a Welsh museum the UK’s best free-to-visit spot in the UK. Analysing the UK’s museums, galleries, cathedrals and other historical sites that are free to visit in 2026, their consumer experts have put together the 17 best-rated – with Wales ...

Cyhydnos yr Hydref 🍁   Autumn EquinoxHeddiw rydym yn croesawu diwrnod cyntaf yr hydref. Cyn hir, bydd y tywydd yn oeri, ...
23/09/2026

Cyhydnos yr Hydref 🍁 Autumn Equinox

Heddiw rydym yn croesawu diwrnod cyntaf yr hydref. Cyn hir, bydd y tywydd yn oeri, y dyddiau'n byrhau, a'r coed yn gollwng eu dail euraid. Dyma’r amser perffaith i fynd allan i fyd natur i archwilio tiroedd a gerddi Sain Ffagan. Dewch i weld y newid yn y tymhorau wrth i fis Medi lithro i liw’r hydref.

****

Today, we welcome the first day of autumn. Soon, the air will turn crisp, the days will shorten and the trees will drop their golden leaves. This is the perfect time to put on your walking boots and head out into nature to explore the grounds and gardens of St Fagans. Witness the changing of the seasons as September slips into autumn colour.

Address

St Fagans National Museum Of History
Cardiff
CF56XB

Opening Hours

Monday 10am - 5pm
Tuesday 10am - 5pm
Wednesday 10am - 5pm
Thursday 10am - 5pm
Friday 10am - 5pm
Saturday 10am - 5pm
Sunday 10am - 5pm

Telephone

0300 111 2 333

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru - St Fagans National Museum of History posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Contact The Museum

Send a message to Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru - St Fagans National Museum of History:

Share

Category