Pentref Oes Haearn Castell Henllys

Call Directions Website Contact the museum

Pentref Oes Haearn Castell Henllys Mae eich antur hynafol yn aros amdanoch ym Mhentref Oes Haearn Castell Henllys! Am ein tudalen Saesneg, ewch i: https://www.facebook.com/CastellHenllys

Oriau Agor
Pentref Oes Haearn ar agor bob dydd o 10am, mynediad olaf am 4pm. Archwiliwch y safle gan gynnwys ein coetir a’n Llwybr Troednoeth. Mae taith tywys o'r pentref yn gynwysedig yn y pris mynediad a bydd aelod cyfeillgar o’n llwyth yn siarad â chi am fywyd yn yr Oes Haearn. Prisiau mynediad
£8.50 Oedolion
£6.50 Plentyn
£26.50 Teulu (2 oedolyn a 2 blentyn).

Eisiau paratoi eich clystau cyn penwthnos brysur yn "Aberteifi Live"? Beth am ddod draw i wrando ar gerddoriaeth werin w...
14/10/2026

Eisiau paratoi eich clystau cyn penwthnos brysur yn "Aberteifi Live"? Beth am ddod draw i wrando ar gerddoriaeth werin wrth y Tân yng Nghastell Henllys, ar ddydd Mawrth, 27 Hydref?

Byddwn yn croesawu’r cyfansoddwr, Padraig Jack, yr holl ffordd o iwerddon, i Gastell Henllys am berfformiad unigryw wrth y tân. Mae Padraig yn ennill enw da fel artist ddwyieithog (Gwyddeleg/Saesneg) o safon uchel, gyda cherddoriaeth a chaneuon sydd wedi’u gwreiddio’n ddwfn yn hanes, diwylliant, iaith a thraddodiad adrodd straeon Iwerddon.

https://events.pembrokeshirecoast.wales/ -tickets_295

Ar ddydd Sadwrn 24 Hydref, allwch ymuno â thîm Parcmon y Parc Cenedlaethol am ddiwrnod o wasgu afalau yng Nghastell Henl...
13/10/2026

Ar ddydd Sadwrn 24 Hydref, allwch ymuno â thîm Parcmon y Parc Cenedlaethol am ddiwrnod o wasgu afalau yng Nghastell Henllys.

Dewch â’ch afalau eich hun i’w gwasgu’n sudd i fynd adref gyda chi (cofiwch ddod â photeli hefyd!). Bydd afalau o'r ferllan dreftadaeth yn Sain Ffraid ar gael hefyd i’r rhai sydd heb afalau eu hunain ond sy’n dal eisiau cymryd rhan.

Er mae hydref yw hi o hyd, nid yw’r gaeaf ymhell i ffwrdd. Ymunwch â’r Pentrefwyr ar ddydd Sadwrn 31 Hydref, i nodi newi...
11/10/2026

Er mae hydref yw hi o hyd, nid yw’r gaeaf ymhell i ffwrdd.

Ymunwch â’r Pentrefwyr ar ddydd Sadwrn 31 Hydref, i nodi newid y tymhorau. Dathlwch ddiwedd y cynhaeaf a mwynhewch y cyfnod o ddigonedd, cyn i ddyddiau oer a chaled y gaeaf gyrraedd.

Mwynhewch gweithgareddau allwch ymuno mewn gyda a gwrando i chwedlau a strëon cyn dod at ein gilydd o gwmpas yr coelcerth am prynhawn o dathliadau ar 3pm.

£11 Oedolyn, £9 Plentyn, £35.50 Teulu (2+2 neu 1+3). Pob gweithgaredd yn cael ei cynnwys yn prîs mynediad.

Dydd Sadwrn 31 Hydref, 11am–4pm.

Argymhellir archebu ymlaen llaw. Am ragor o wybodaeth, ewch i: https://www.arfordirpenfro.cymru/castell-henllys/digwyddiadau/digwyddiadau-hydref-ar-gaeaf/

Wrth i’r flwyddyn fynd heibio mae'r nosweithiau yn ymestyn, dyma’r amser delfrydol i grwydro’r coetiroedd wedi iddi dywy...
09/10/2026

Wrth i’r flwyddyn fynd heibio mae'r nosweithiau yn ymestyn, dyma’r amser delfrydol i grwydro’r coetiroedd wedi iddi dywyllu.

Dewch i ddarganfod cyfrinachau’r coed wedi'r nos o amgylch Castell Henllys, ar ein Taith Nos Biofflworoleuol.

Ymunwch â ni yng Nghastell Henllys am daith gerdded gyda’n Parcmon wedi iddi nosi i ddarganfod biofflworoleuedd hudolus y coetiroedd yn yr hydref. Dyma adeg y flwyddyn pan fydd ffyngau a chennau’n dod yn fyw yn y nos gyda dangosfa fywiog o liw.

Dydd Gwener 30 Hydref, 6.30pm.

https://www.arfordirpenfro.cymru/castell-henllys/digwyddiadau/digwyddiadau-hydref-ar-gaeaf/

Mae’r hydref yn gyfnod o ddigonedd, ac yn dilyn haf poeth mae llond lle o ffrwythau ar gael yr hydref hwn.Manteisiwch ar...
08/10/2026

Mae’r hydref yn gyfnod o ddigonedd, ac yn dilyn haf poeth mae llond lle o ffrwythau ar gael yr hydref hwn.

Manteisiwch ar y cynhaeaf afalau ac ymunwch â sesiwn gwasgu afalau yng Nghastell Henllys. Rhowch gynnig arni eich hun – dewch ag afalau eich hun neu defnyddiwch rai o’n perllan dreftadaeth yn Sain Ffraid. Cofiwch ddod â photel os ydych am fynd â’ch sudd adref.

Digwyddiad am ddim, mae taliadau mynediad arferol i’r ganolfan yn berthnasol.

Dydd Sadwrn 24 Hydref, 11am–3pm

Bydd Castell Henllys yn symud i oriau agor y gaeaf o ddydd Llun 2 Tachwedd (ar agor o ddydd Mercher i ddydd Sul, 10am–3p...
06/10/2026

Bydd Castell Henllys yn symud i oriau agor y gaeaf o ddydd Llun 2 Tachwedd (ar agor o ddydd Mercher i ddydd Sul, 10am–3pm), ond cyn hynny mae gennym wythnos lawn o ddigwyddiadau yn ystod hanner tymor mis Hydref.

Gwasgu Afalau – dydd Sadwrn 24 Hydref, 11am–3pm.

Gwerin wrth y Tân gyda Padraig Jack – dydd Mawrth 27 Hydref, 7.30pm.

Samhain Syfrdanol (Perfformiad Tân a Llosgi’r Dyn Gwiail) – dydd Iau 29 Hydref, 5.30pm.

Taith Gerdded Biofflwroleuol gyda’r Nos – dydd Gwener 30 Hydref, 6.30pm.

Dathliad Samhain – dydd Sadwrn 31 Hydref, 11am–4pm.

Mae manylion yr holl ddigwyddiadau, gan gynnwys sut i archebu, ar gael yma: Bydd Castell Henllys yn symud i oriau agor y gaeaf o ddydd Llun 2 Tachwedd (ar agor o ddydd Mercher i ddydd Sul, 10am–3pm), ond cyn hynny mae gennym wythnos lawn o ddigwyddiadau yn ystod hanner tymor mis Hydref.

Gwasgu Afalau – dydd Sadwrn 24 Hydref, 11am–3pm.
Gwerin wrth y Tân gyda Padraig Jack – dydd Mawrth 27 Hydref, 7.30pm.
Samhain Syfrdanol (Perfformiad Tân a Llosgi’r Dyn Gwiail) – dydd Iau 29 Hydref, 5.30pm.
Taith Gerdded Biofflwroleuol gyda’r Nos – dydd Gwener 30 Hydref, 6.30pm.
Dathliad Samhain – dydd Sadwrn 31 Hydref, 11am–4pm.

Mae manylion yr holl ddigwyddiadau, gan gynnwys sut i archebu, ar gael yma:Bydd Castell Henllys yn symud i oriau agor y gaeaf o ddydd Llun 2 Tachwedd (ar agor o ddydd Mercher i ddydd Sul, 10am–3pm), ond cyn hynny mae gennym wythnos lawn o ddigwyddiadau yn ystod hanner tymor mis Hydref.

Gwasgu Afalau – dydd Sadwrn 24 Hydref, 11am–3pm.
Gwerin wrth y Tân gyda Padraig Jack – dydd Mawrth 27 Hydref, 7.30pm.
Samhain Syfrdanol (Perfformiad Tân a Llosgi’r Dyn Gwiail) – dydd Iau 29 Hydref, 5.30pm.
Taith Gerdded Biofflwroleuol gyda’r Nos – dydd Gwener 30 Hydref, 6.30pm.
Dathliad Samhain – dydd Sadwrn 31 Hydref, 11am–4pm.

Mae manylion yr holl ddigwyddiadau, gan gynnwys sut i archebu, ar gael yma: https://www.arfordirpenfro.cymru/castell-henllys/digwyddiadau/digwyddiadau-hydref-ar-gaeaf/

Ar ôl gorfod gohirio llosgi’r Dyn Gwiail ym mis Awst oherwydd y tywydd sych, mae Castell Henllys yn falch o gyflwyno ein...
04/10/2026

Ar ôl gorfod gohirio llosgi’r Dyn Gwiail ym mis Awst oherwydd y tywydd sych, mae Castell Henllys yn falch o gyflwyno ein Sioe Dân Samhain.

Wrth i’r dydd droi’n nos ddydd Iau 29 Hydref, ymunwch â ni ar gyfer ein sioe dân fwyaf trawiadol hyd yma.

Bydd “Danny the Fire Performer” yn cyflwyno sioe gwbl newydd cyn cynnau’r Dyn Gwiail.

Bydd Afon Mel yn ymuno â ni unwaith eto gyda’u bar medd, a bydd modd archebu bwyd ymlaen llaw gan Blasus i’w fwynhau ar ôl y perfformiad.

I gael yr holl fanylion ac i archebu, ewch i: https://www.arfordirpenfro.cymru/castell-henllys/digwyddiadau/digwyddiadau-hydref-ar-gaeaf/

Mae Castell Henllys yn cyflwyno Gwerin wrth y Tân gyda Padraig Jack. Dydd Mawrth 27 Hydref. Ymunwch â ni am noson gyda’r...
02/10/2026

Mae Castell Henllys yn cyflwyno Gwerin wrth y Tân gyda Padraig Jack. Dydd Mawrth 27 Hydref.

Ymunwch â ni am noson gyda’r cyfansoddwr caneuon gwerin Celtaidd o Iwerddon, Padraig Jack, mewn lleoliad unigryw - un o’n tai crwn Oes yr Haearn.

Mae Padraig yn ysgrifennu ac yn canu caneuon ystyrlon ar y gitâr, a’r piano yn y Wyddeleg a’r Saesneg. Mae ei ddylanwadau’n amrywio o Enya, Emmylou Harris a’r Eagles i Van Morrison, Sinéad O’Connor a Richard Thompson. Mae’n gwerthfawrogi caneuon cryf, sydd â safbwynt unigryw.

I gael yr holl fanylion ac i archebu, ewch i: https://www.arfordirpenfro.cymru/castell-henllys/digwyddiadau/digwyddiadau-hydref-ar-gaeaf/

Mae ein rhaglen ddigwyddiadau hydref yn parhau i dyfu, gyda dau ddyddiad newydd i’w nodi yn eich dyddiadur.Ddydd Mawrth ...
30/09/2026

Mae ein rhaglen ddigwyddiadau hydref yn parhau i dyfu, gyda dau ddyddiad newydd i’w nodi yn eich dyddiadur.

Ddydd Mawrth 27 Hydref, byddwn yn croesawu’r cyfansoddwr caneuon o Iwerddon, Padraig Jack, ar gyfer ein noson Gwerin wrth y Tân.

Yna, ar ddydd Iau 29 Hydref, byddwn yn llosgi’r Dyn Gwiail fel rhan o’n Sioe Samhain, ar ôl gorfod gohirio’r digwyddiad ym mis Awst.

I weld rhestr lawn o’n digwyddiadau, ewch i: https://www.arfordirpenfro.cymru/castell-henllys/digwyddiadau/digwyddiadau-hydref-ar-gaeaf/

Mae’r Haf yn dod i ben ac cyn hyr fe fydd ein meddyliau yn troi i diwedd cynhaeaf, diwyrnodau birach a nosweithu oer.Mae...
26/09/2026

Mae’r Haf yn dod i ben ac cyn hyr fe fydd ein meddyliau yn troi i diwedd cynhaeaf, diwyrnodau birach a nosweithu oer.

Mae Hydref ei hunan yn amser o digonedd, mae ‘na cnau a ffrwythau yn gallu cael ei ffeindio yn yr wyllt, ac mae’r cynhaeaf yn cael ei casglu. Yn yr wythnosau sydd i ddod, fe fyd diwedd yr cynhaeaf yn cael ei casglu ac yn dod i mewn i’r stordi yn barod am yr Gaeaf. Ar ddiwedd yr cynhaeaf, fe fydd pobl yn dod at ei gylydd i dathlu, rhoi diolch a dymuno am Gaeaf rhwydd. Mae’r dathliad rydym nawr yn galw Calan Gaeaf, Noson Calan Gaeaf (sydd yn cael ei alw’n Samhain yn Iwerddon) bron yma.

Blwyddyn yma, fydwn yn dathlu’r dathliad ar Dydd Sadwrn, 31 Hydref. Mwynhewch gweithgareddau allwch cymryd rhan ynddo, storïau ysbrydol, cyn cymryd rhan yn yr dathliad coelcerth am 3yp. Am fwy o wybodaeth am gweithgareddau dros hanner tymor, ewch i https://www.arfordirpenfro.cymru/castell-henllys/digwyddiadau/digwyddiadau-hydref-ar-gaeaf/

Address

Meline (ger Crymych)
Eglwyswrw
SA413UR

Opening Hours

Monday 10am - 5pm
Tuesday 10am - 5pm
Wednesday 10am - 5pm
Thursday 10am - 5pm
Friday 10am - 5pm
Saturday 10am - 5pm
Sunday 10am - 5pm

Telephone

+441239891319

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Pentref Oes Haearn Castell Henllys posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Contact The Museum

Send a message to Pentref Oes Haearn Castell Henllys:

Shortcuts

Share

Category